Lleoliadau Myfyrwyr a Graddedigion
Gwybodaeth am leoliadau ar gyfer Myfyrwyr a Graddedigion
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am sut y mae'r cynllun lleoliadau'n gweithio a sut i wneud cais.
Gwybodaeth am leoliadau ar gyfer Cwmnefau
Oes gennych chi brosiect TG y mae angen pâr ychwanegol o ddwylo arnoch ar ei gyfer? Allech chi wneud y tro â rhywun i ddatblygu meddalwedd ar eich cyfer? A oes angen datblygu
eich
cronfa ddata neu'ch gwefan? Fyddech chi'n hoffi cael help i ddechrau ar brosiect TG? Fyddech chi'n hoffi asesu neu wella isadeiledd TG eich busnes? Mae ITWales (fel asiant i GoWales, sef y
cynllun lleoliadau sy'n gweithredu ar draws Cymru gyfan) yn arbenigo mewn lleoli myfyrwyr neu raddedigion ym maes TG a chyfrifiadureg mewn busnesau yng Nghymru am hyd at 10 wythnos. Gallai
busnesau bach fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i dalu costau lleoliad.
Sut y mae'n gweithio?
Beth fydd y gost?
Sut y gall fy nghwmni gymryd rhan yn y cynllun?
Wrthi'n chwilio am help â phrosiect nad yw'n ymwneud â TG?
Enghreifftiau o leoliadau yn y gorffennol
Sut y mae'n gweithio?
- Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad o'r prosiect, sy'n amlinellu'r tasgau y bydd y sawl a gaiff ei leoli'n cael ei gyflogi i'w cyflawni.
- Yna, byddwn ni'n llunio rhestr fer o bobl addas ac yn anfon CV pob un ohonynt atoch.
- Yna, byddwch chi'n gallu trefnu cyfweliadau, dewis eich hoff ymgeisydd a chytuno ar ddyddiad cychwyn ar gyfer y lleoliad.
- Bydd angen llenwi ffurflen cynnig prosiect cyn i'r lleoliad ddechrau, sy'n ymdrin â materion yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch. v
- Bydd cytundeb safonol yn cael ei lunio rhwng y cwmni, y sawl a gaiff ei leoli ac ITWales.
- Bydd yn ofynnol i'r cwmni ddarparu amodau a thelerau cyflogi ysgrifenedig.
- Bydd cynrychiolydd o ITWales yn ymweld â chi yn ystod y lleoliad. Bydd modd hefyd i chi ein ffonio ni neu anfon e-bost atom os bydd angen ateb arnoch i unrhyw ymholiadau a allai godi yn ystod
y
lleoliad.
- Ar ddiwedd y lleoliad, gofynnir i chi lenwi ffurflen adborth a chodi anfoneb ar gyfer y cymhorthdal y cytunwyd arno (ni ddylid codi TAW).
- Bydd rheoliadau'n ymwneud ag Yswiriant Gwladol, treth a gwyliau'n berthnasol i'r sawl a gaiff ei leoli.
Beth fydd y gost?
- Bydd yn ofynnol i'r cwmni dalu cyflog sy'n cyfateb i o leiaf £230 yr wythnos i'r sawl a gaiff ei leoli, yn ogystal â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr.
- Dim ond cwmnefau â llai na 250 o weithwyr all fod yn gymwys i gael cymhorthdal.
- Caniateir dau gymhorthdal y flwyddyn.
- Bydd y lleoliad cyntaf yn cael cymhorthdal o £90 yr wythnos a bydd yr ail leoliad yn cael cymhorthdal o £75 yr wythnos.
- Bydd y cymorthdaliadau'n cael eu rhoi ar ddiwedd y lleoliad ar ôl i'r gwaith papur angenrheidiol gael ei gwblhau.
Bydd yn ofynnol i gwmnefau dalu cyflog llawn mewn perthynas ag unrhyw leoliadau a drefnir wedi hynny.
Sut y gall fy nghwmni gymryd rhan yn y cynllun?
Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect y byddech yn hoffi i fyfyriwr/person graddedig ei gyflawni, dylech lenwi ein
Ffurflen cofrestru diddordeb . Bydd angen manylion cyswllt a manylion am y cwmni arnom yn ogystal â gwybodaeth am y tasgau/prosiectau y
byddech yn hoffi i'r sawl a gaiff ei leoli eu cyflawni.
Os yw'n well gennych gael trafodaeth fanylach ynghylch y cynllun, cysylltwch â Liz Nash drwy ffonio (01792) 295881 neu drwy anfon e-bost at
e.nash@swan.ac.uk.
Wrthi'n chwilio am help â phrosiect nad yw'n ymwneud â TG?
Os ydych yn chwilio am help â phrosiect nad yw'n ymwneud â TG, byddem yn eich cynghori i fynd i wefan
GoWales . Os ydych yn chwilio am leoliad y tu allan i Gymru, ewch i wefan Shell-STEP:
www.step.org.uk .
|