Lleoliadau Myfyrwyr a Graddedigion
Gwybodaeth am leoliadau ar gyfer Myfyrwyr a Graddedigion
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am sut y maer cynllun lleoliadaun gweithio a sut i wneud cais.
Gwybodaeth am leoliadau ar gyfer Cwmnefau
Oes gennych chi brosiect TG y mae angen pâr ychwanegol o ddwylo arnoch ar ei gyfer? Allech chi wneud y tro â rhywun i ddatblygu meddalwedd ar eich cyfer? A oes angen datblygu eich cronfa ddata neuch gwefan? Fyddech chin hoffi cael help i ddechrau ar brosiect TG? Fyddech chin hoffi asesu neu wella isadeiledd TG eich busnes? Mae ITWales fel asiant i GoWales, sef y cynllun lleoliadau syn gweithredu ar draws Cymru gyfan yn arbenigo mewn lleoli myfyrwyr neu raddedigion ym maes TG a chyfrifiadureg mewn busnesau yng Nghymru am hyd at 10 wythnos. Gallai busnesau bach fod yn gymwys i gael cymorth ariannol i dalu costau lleoliad.
Sut y maen gweithio?Beth fydd y gost?
Sut y gall fy nghwmni gymryd rhan yn y cynllun?
Wrthin chwilio am help â phrosiect nad ywn ymwneud â TG?
Enghreifftiau o leoliadau yn y gorffennol
Sut y maen gweithio?
- Bydd angen i chi ddarparu disgrifiad or prosiect, syn amlinellur tasgau y bydd y sawl a gaiff ei leolin cael ei gyflogi iw cyflawni.
- Yna, byddwn nin llunio rhestr fer o bobl addas ac yn anfon CV pob un ohonynt atoch.
- Yna, byddwch chin gallu trefnu cyfweliadau, dewis eich hoff ymgeisydd a chytuno ar ddyddiad cychwyn ar gyfer y lleoliad.
- Bydd angen llenwi ffurflen cynnig prosiect cyn ir lleoliad ddechrau, syn ymdrin â materion yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch. v
- Bydd cytundeb safonol yn cael ei lunio rhwng y cwmni, y sawl a gaiff ei leoli ac ITWales.
- Bydd yn ofynnol ir cwmni ddarparu amodau a thelerau cyflogi ysgrifenedig.
- Bydd cynrychiolydd o ITWales yn ymweld â chi yn ystod y lleoliad. Bydd modd hefyd i chi ein ffonio ni neu anfon e-bost atom os bydd angen ateb arnoch i unrhyw ymholiadau a allai godi yn ystod y lleoliad.
- Ar ddiwedd y lleoliad, gofynnir i chi lenwi ffurflen adborth a chodi anfoneb ar gyfer y cymhorthdal y cytunwyd arno ni ddylid codi TAW.
- Bydd rheoliadaun ymwneud ag Yswiriant Gwladol, treth a gwyliaun berthnasol ir sawl a gaiff ei leoli.
Beth fydd y gost?
- Bydd yn ofynnol ir cwmni dalu cyflog syn cyfateb i o leiaf 230 yr wythnos ir sawl a gaiff ei leoli, yn ogystal â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr.
- Dim ond cwmnefau â llai na 250 o weithwyr all fod yn gymwys i gael cymhorthdal.
- Caniateir dau gymhorthdal y flwyddyn.
- Bydd y lleoliad cyntaf yn cael cymhorthdal o 90 yr wythnos a bydd yr ail leoliad yn cael cymhorthdal o 75 yr wythnos.
- Bydd y cymorthdaliadaun cael eu rhoi ar ddiwedd y lleoliad ar ôl ir gwaith papur angenrheidiol gael ei gwblhau.
Bydd yn ofynnol i gwmnefau dalu cyflog llawn mewn perthynas ag unrhyw leoliadau a drefnir wedi hynny.
Sut y gall fy nghwmni gymryd rhan yn y cynllun?
Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect y byddech yn hoffi i fyfyriwr/person graddedig ei gyflawni, dylech lenwi ein Ffurflen cofrestru diddordeb . Bydd angen manylion cyswllt a manylion am y cwmni arnom yn ogystal â gwybodaeth am y tasgau/prosiectau y byddech yn hoffi ir sawl a gaiff ei leoli eu cyflawni.
Os ywn well gennych gael trafodaeth fanylach ynghylch y cynllun, cysylltwch â Liz Nash drwy ffonio 01792 295881 neu drwy anfon e-bost at e.nash@swan.ac.uk.
Wrthin chwilio am help â phrosiect nad ywn ymwneud â TG?
Os ydych yn chwilio am help â phrosiect nad ywn ymwneud â TG, byddem yn eich cynghori i fynd i wefan GoWales . Os ydych yn chwilio am leoliad y tu allan i Gymru, ewch i wefan Shell-STEP: www.step.org.uk .





