
Manteision i gwmnïau sy'n cymryd rhan
Sut y mae'n gweithio?
Hawliau eiddo deallusol
Enghreifftiau o bartneriaethau ymchwil a datblygu yn y gorffennol
Gall yr Adran Gyfrifiadureg, trwy ITWales, gynnig cymorth am ddim i gwmnefau gyflawni prosiectau ymchwil a datblygu.
Caiff prosiectau o'r fath eu seilio ar syniadau a gynigir gan fusnesau, a chânt eu datblygu gan fyfyrwyr sydd ym mlwyddyn olaf eu cwrs gradd neu sy'n dilyn cwrs Gradd Meistr mewn Cyfrifiadureg.
Mae prosiectau ymchwil a datblygu diwydiannol a drefnwyd gan ITWales wedi ennill gwobrau Awdurdod Datblygu Cymru ym maes technoleg bob blwyddyn ers 1994.
Nod y prosiectau yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio'n fanwl i bwnc penodol, cynllunio system gyfan a'i rhoi ar waith, a chael profiad o gylch bywyd prosiect sy'n ymwneud â meddalwedd.
Mae'r cwmni'n cysylltu ag ITWales i sf4n am syniad cychwynnol. (Cofrestrwch eich diddordeb yma)
Mae ITWales yn trefnu cyfarfod â'r cwmni ac academyddion o'r Adran Gyfrifiadureg. Bydd y syniad yn cael ei archwilio'n llawn yn ystod y cyfarfod.
Caiff manyleb prosiect ei datblygu wedyn yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn.
Mae'r fanyleb yn rhestru'r nodau a'r amcanion, y strwythur a'r amserlen, a'r adnoddau sydd eu hangen o ran caledwedd a meddalwedd. Mae cyllid ar gael ar gyfer unrhyw galedwedd a/neu feddalwedd sydd ei angen.
Mae ITWales ar y cyd â'r Adran Gyfrifiadureg yn rhoi'r prosiect i fyfyriwr sydd â'r sgiliau technegol perthnasol.
Mae aelod o staff academaidd sy'n arbenigo yn y maes dan sylw'n goruchwylio'r prosiect ac yn cyfarfod â'r myfyriwr yn wythnosol.
Yn ogystal, bydd prosiect ymchwil a datblygu fel rheol yn golygu cynnal cyfarfodydd o bryd i'w gilydd rhwng y cwmni, y goruchwylydd yn y Brifysgol a'r myfyriwr.
Mae'r canllawiau cyffredinol ynghylch perchnogaeth ar eiddo deallusol fel a ganlyn:
Gall ITWales drefnu Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth hefyd. I gael mwy o wybodaeth am hynny, cysylltwch â Beti Williams drwy ffonio 01792 295881.
Home, Services, Events, Features, Interviews, Profiles, Reviews, News, Resources, Press