section separator
Gwasanaethau
Clwb Busnes ITWales
Lleoliadau Myfyrwyr a Graddedigion
Prosiectau Ymchwil a Datblygu
Cyrsiau Dysgu Ar-lein
Cysylltu â ni


Home | Services | Events | Features | Interviews | Profiles | Reviews | News | Resources | Press


Cyrsiau Dysgu Ar-lein

Mae gennym gyfres o gyrsiau dysgu ar-lein poblogaidd i gyd-fynd â'r gyfres o weithdai a seminarau a drefnir gan Glwb Busnes ITWales.

Mae cyrsiau ar-lein yn eich galluogi i astudio ble bynnag a phryd bynnag yr ydych yn dymuno. Mae'r cyrsiau'n rhad ac am ddim i aelodau Clwb Busnes ITWales.Ymuno â Chlwb Busnes ITWales

Os ydych eisoes yn aelod o Glwb Busnes ITWales, bydd eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair presennol yn eich galluogi i gael gafael ar y deunydd yn adran yr aelodau ar y wefan.

Mae'r cyrsiau a ddarperir wedi'u datblygu'n arbennig ar gyfer ITWales gan Imagitech, ar y cyd ag Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Cymru Abertawe. Maent wedi'u cynllunio fel eu bod mor syml ac effeithiol ag sy'n bosibl. Mae'r cyrsiau canlynol ar gael yn awr:

Creu a gweinyddu gwefannau ar y Rhyngrwyd
Rhaglennu gan ddefnyddio Delphi
Rhwydweithiau cyfrifiaduron
Rhaglennu gan ddefnyddio Java
Rhaglennu gan ddefnyddio VB
Cymwysiadau'r we a yrrir gan ddata (IIS ac ASP)

Creu a gweinyddu gwefannau

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i iaith HTML, dolenni cyswllt, dogfennau, cyfarwyddiadau arddull, tablau, ffurflenni, gwaith cynllunio gwefannau, gwaith dylunio, peiriannau chwilio, Rhyngwyneb Porth Cyffredin (CGI), Applets Java, a rhaglennu ar gyfer y we. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am y pwnc. Cipolwg ymlaen llaw ar y cwrs

Rhaglennu gan ddefnyddio Delphi

Bydd y cwrs hwn yn eich arwain trwy'r agweddau canlynol ar Delphi: Amgylchedd Datblygu Integredig (IDE), cymwysiadau'n seiliedig ar wrthrychau, gwaith aml-gyfrwng, cronfeydd data, Iaith Ymholi Strwythuredig (SQL), y Rhyngrwyd / dulliau cyfathrebu a chydrannau. Cipolwg ymlaen llaw ar y cwrs

Rhwydweithiau cyfrifiaduron

Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth fanwl o rwydweithiau cyfrifiaduron, o Brotocol Rheoli Trosglwyddiad (TCP)/Protocol y Rhyngrwyd (IP) i waith cynllunio rhwydwaith. Mae'r cwrs yn cynnwys darlithoedd ar sut y gellir rhannu swyddogaethau rhwydwaith cyfrifiaduron yn ddarnau sy'n haws eu rheoli gan ddefnyddio model haenau; ymdriniaeth o faterion sy'n annibynnol ar lwyfan ac sy'n ymwneud â chreu rhwydwaith cyfrifiaduron; a deunydd sy'n sail i ddeall Protocol Rheoli Trosglwyddiad (TCP)/Protocol y Rhyngrwyd (IP) - yn amrywio o acronymau a chyfeiriadau i waith datrys problemau. Cipolwg ymlaen llaw ar y cwrs

Rhaglennu gan ddefnyddio Java

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i Java, a bydd yn ymdrin ag egwyddorion cyntaf Java a rheolau'r iaith cyn ymdrin ag adeiladu Applets Java yn llinynnau cymhleth, trin ffeiliau, technegau rhaglennu ar sail gwrthrychau a rhwydweithio. Cipolwg ymlaen llaw ar y cwrs

Rhaglennu gan ddefnyddio VB

Mae'r cwrs hwn yn gyflwyniad i Visual Basic, ac mae'n ymdrin â mewnbwn/allbwn ffeiliau, cynllunio ffurflenni a rhaglennu ar sail gwrthrychau gan ddefnyddio VB. Mae'r cwrs yn cynnwys darlithoedd ar yr hyn y gall VB ei wneud, y math o gymwysiadau y gellir eu hadeiladu gan ddefnyddio VB, a'r hyn na ddylech ddefnyddio VB ar ei gyfer. Byddwch yn dysgu sut i adeiladu eich cymhwysiad cyntaf a sut i greu rhyngwynebau ar gyfer defnyddwyr. Byddwn yn symud ymlaen wedyn i ymdrin â rhaglennu ar sail gwrthrychau a datblygu meddalwedd cydrannau. Cipolwg ymlaen llaw ar y cwrs

Cymwysiadau'r we a yrrir gan ddata (IIS ac ASP)

Gweinydd Gwybodaeth y Rhyngrwyd (IIS) a Thudalennau Gweinydd Gweithredol (ASP) - Byddwch yn dysgu sut i ddatblygu gwefannau rhyngweithiol mewn Tudalennau Gweinydd Gweithredol gan ddefnyddio Gweinydd Gwybodaeth y Rhyngrwyd ar system Windows NT, a chreu Tudalennau Gweinydd Gweithredol a Chymwysiadau'r We sy'n rhyngwynebu â gweinydd SQL. Cipolwg ymlaen llaw ar y cwrs





Home | Services | Events | Features | Interviews | Profiles | Reviews | News | Resources | Press
About ITWales | Archive | Privacy Policy

All material on this website ©2002-2009 ITWales
spacer

Search ITWales

Advanced Search
envelope Subscribe to
ITWales Updates
Click Here!