ITWales.com

Clwb Busnes ITWales

Mae Clwb Busnes ITWales yn rhoi llwyfan i fusnesau Cymru rwydweithio'n rheolaidd trwy gyfrwng amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Nod pob digwyddiad yw annog busnesau i weithredu'n fwy effeithiol a phroffidiol a thyfu'n fwy cystadleuol yn economi Cymru ac economïau'r byd.

Digwyddiadau yn 2008
Gwneud cais i fod yn aelod
Adran yr aelodau

Pam ymuno â Chlwb Busnes ITWales?

Aelodaeth am ddim, i ymgeiswyr o'r DU yn unig.

Digwyddiadau am ddim. Mae pob digwyddiad yn rhad ac am ddim i aelodau, ac maent yn gyfle ardderchog i rwydweithio.

Mynediad am ddim ar-lein i ddeunyddiau digwyddiadau. Os byddwch wedi colli digwyddiad, bydd modd i chi gael gafael ar glip fideo o uchafbwyntiau'r digwyddiad a deunyddiau perthnasol eraill ar-lein. Caiff ffi lawrlwytho ei chodi unwaith yn unig ar bobl nad ydynt yn aelodau.

Cyfle i fusnesau hysbysebu am ddim i'w gilydd. Bydd modd i aelodau hysbysebu cynnyrch a gwasanaethau i fusnesau eraill sydd yn y gronfa ddata o aelodau.

Cyfle i hysbysebu am ddim mewn cylchgrawn. Bydd modd i aelodau gyrraedd darllenwyr ITWales.com trwy gyfrwng hysbysebion teils yn ein cylchgrawn ar y we.

Blwch awgrymiadau am ddim. Bydd modd i aelodau gynnig syniadau ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yn y dyfodol. Bydd hynny o gymorth i ni eich helpu i weld beth yn union yr ydych am ei gael.

Home, Services, Events, Features, Interviews, Profiles, Reviews, News, Resources, Press